1 Dyddgwaith dibech oedd echdoe
2 Da fv dduw a Dafydd ddoe
3 Nid oedd vnrhyw dydd anrheg
4 Y dydd echdoe a doe deg
5 drwg oedd fod hoywnod hynoeth
6 Echdoe'n frawd i ddoe ddoeth
7 O fair wychdeg fawr echdoe
8 A fydd rhyw ddydd ar dydd doe
13 Doe y dialawdd cawdd cowddnwyf
14 Dafydd hen a newydd nwyf
15 Gwydnglwyf yddwyf vn ddeall
16 Gwydn wyf fal gwden afall
17 A blyg yn hawdd gawdd gywrdd
18 Ac ni thyrr er vn gyrr gwrdd
19 Mae ynof gwangof gwyngen
20 Enaid cath anwydog hen
21 briwer cvrer cof lwydwydd
22 bo a fo arni byw fydd
23 Pedestr hwyr wyf cawddnwyf call
24 Ar hyd erw lle y rhed arall
25 [97v] A meistrawl ar wawl walamp
26 O'i gwsc lle mae gore'r gamp
27 Gwell ym-mhell ger gwaew llifnwyf
28 Pwyll nag avr pellennig wyf
29 O dduw ai grym ym amwyll
30 A wyddant hwy pwy yw pwyll
31 Trech llafur nofiadur nwyf
32 na direidi dewr ydwyf
33 Da fyddei forfydd i'w dyn
34 or diwedd hoen eiry dywyn
35 Iawn a wneuthym ei chanmawl
36 ond oedd iawn fenaid i ddiawl
37 Nos da i'r ferch annherchglaer
38 awydd da am nad oedd daer
39 ai hi am gorfydd hayach
40 Aha gwraig y bwa bach
Da' ap Glm'